
Un teulu mawr
Mae Capel y Morfa yn eglwys fywiog a chartrefol yn Aberystwyth - eglwys sydd yn agored iawn ei meddwl a'i hagwedd. Rydym yn credu yn Iesu Grist fel calon a chanol bywyd y Cristion ac fel ffynhonnell ein hadnabyddiaeth o Dduw. Yr ydym yn ceisio ei ddilyn o ddydd i ddydd gan ddibynnu arno am faddeuant am bob methiant, nerth ym mhob angen ac ysbrydoliaeth ar gyfer pob her.
Oedfaon Rhagfyr 2025
10 y.b. (Capel y Morfa ac ar Zoom)
​​
7 Rhagfyr – Eifion Roberts (Cymun)
14 Rhagfyr – Gwasanaeth Nadolig y plant
21 Rhagfyr – Eifion Roberts
25 Rhagfyr - Eifion Roberts
28 Rhagfyr– Rhidian Griffiths
​
Oedfaon Ebeneser (2:15 y.p.)
​
7 Rhagfyr - Gwasanaeth Cymun am 2.15. o’r gloch
21 Rhagfyr - Gwasanaeth
​
Bydd y gwasanaethau o dan arweiniad ein Gweinidog Y Parchedig Eifion Roberts.
​
​
​
Nadolig ym Methlehem
Mae maer Bethlehem wedi cyhoeddi eu bod nhw yn dathlu Nadolig yn y ddinas eleni, roedd dathliadau wedi eu hatal ers dwy flynedd oherwydd y rhyfel yn Gaza. Yr eironi ydi fod y mur y mae llywodraeth Israel wedi ei godi i wahanu Israeliaid a Phalestiniaid bron yn amgylchynu dinas Bethlehem. Dileu y mur rhwng Duw a dyn oedd canlyniad mawr y geni ym Methlehem, daeth Duw ei hun i’r byd, yng ngenedigaeth Iesu.
​
​
​
​
​
​
​
​
​
​
​
​
​
Mae Ioan yn disgrifio’r geni mewn termau diwinyddol. Daeth yn Gair yn gnawd. Y Gair yw cyfarchiad Duw a pherthynas Duw efo’r cread. Ar ei Air, yn ôl Genesis y mae’r cread wedi dod i fodolaeth. Dywedodd Duw “Bydded goleuni a goleuni a fu” a thrwy’r Hen Destament y mae Duw yn galw ar ei broffwydi i ddweud “Fe hyn y dywed yr Arglwydd...” Ond ym Methlehem, mae’r Gair, oedd yn bod yn y dechreuad yn gwisgo cnawd, yn dod i fyw yn ein plith. Trwyddo mae’r mur oedd rhwng Duw a’i bobl wedi ei chwalu. Trwy ei gariad aberthol yn dod i’n byd, a gwneud ei hun yn agored i anaf a gwrthodiad roedd yn mynnu ein gwneud ni’n agos ato.
Ond o gredu yn yr un sydd dymchwel muriau, mae na alwad wedyn ar i ninnau ddymchwel muriau. Yr oedd y Crist yn tynnu pobl ynghyd, boed hynny drwy ddeuddeg disgybl gwahanol iawn i’w gilydd, neu grŵp o ferched – rhai yn gyfoethog, eraill yn dlawd, rhai wedi eu hiachau eraill wedi profi maddeuant, neu boed drwy greu cyfeillgarwch gyda publicanod a phechaduriaid. Trwy hynny mae’n gosod yr un cyfrifoldeb ar ei ddilynwyr, i greu eglwys a chymuned groesawgar i bawb, un sydd yn chwalu muriau. Mae gofyn felly i ni chwalu muriau rhagfarnau, muriau rhyngom a’r dieithryn neu’r alltud, muriau rhyngom a’r gwrthodedig yn ein cymdeithas, a dyna pam fod muriau uchel o
gwmpas Bethlehem mor eironig ar ŵyl y geni.
Erbyn hyn mae’r mur yna yn cynrychioli llawer iawn mwy na gwahanu, trodd yn fur casineb a gwrthdaro yn Gaza. Herod oedd adeiladydd a cheidwad y mur adeg geni Crist, ac fe laddodd y plant ym Methlehem er mwyn diogelu’r mur. Bellach mae geiriau Jeremeia’r proffwyd yn gri y rhai hynny sydd dioddef oherwydd muriau a chasineb ein hoes ni.
“Clywyd llef yn Rama,
wylofain a galaru dwys;
Rachel yn wylo am ei phlant,
ac ni fynnai ei chysuro, am nad oeddent mwy.”
Mae’r wylofain i’w glywed yn Gaza ac yn Wcrain a chymaint o wledydd eraill o hyd. Ond y mae mur yn achos galaru dwys, ac wrth i wleidyddiaeth casineb a beio’r arall ddod yn fwy a mwy amlwg rhaid i bobl Crist fynnu fod y muriau yn cael eu dymchwel. Daeth y Gair yn gnawd, boed i’r Gair barhau i fod yn gnawd yn y ffordd rydym ni yn byw.


